I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect yma ac am y ffordd y gellir defnyddio'r defnyddiau mewn ysgolion, cysylltwch â:

Martin Mansell
Swyddog Addysg y BPA/NASUWT
38 Norbriggs Road
Woodthorpe
Chesterfield
S43 3BU

Ffôn/Ffacs: 01246 476364
Ffôn symudol: 07710 938536
E-bost: martin.mansell@ntlworld.com

Ability v Ability

Y Gemau Paralympaidd

Croeso i'r Pecyn Paralympaidd Prydeinig newydd i Ysgolion –
Gallu v. Gallu.

Mae'r Gemau Paralympaidd ar gyfer yr haen uchaf o athletwyr sy'n perfformio ar eu gorau a, thrwy wneud hynny, maent yn ysbrydoli pobl ifainc i'w helpu i roi o'u gorau personol eu hunain.

Llun o athletwr...

Beth sydd ar y wefan?

  • cyfweliadau gyda'r genhedlaeth newydd o athletwyr Paralympaidd;
  • cronfa gyfryngau o luniau o athletwyr wrth eu gwaith a defnydd fideo Olympaidd;
  • teclyn FrameGrabber i rewi, rhoi capsiwn a chadw delweddau o fideos;
  • chwe cwis Paralympaidd hwyliog;
  • deg gweithgaredd i ddysgwyr ifainc 9-16 oed;
  • ffeiliau o ffeithiau am y mudiad Paralympaidd;
  • dolenni poeth at amrywiaeth mawr o wefannau cysylltiedig;
  • canllawiau cefnogol i athrawon;
  • cysylltiadau i'r pedwar cwricwlwm cenedlaethol.

Amcanion y prosiect

Bydd yr adnodd newydd yma'n eich helpu i:

  • hybu ymwybyddiaeth pobl o'r mudiad Paralympaidd;
  • helpu pobl ifainc i werthfawrogi'n llawnach beth yw natur cymdeithas gynhwysol;
  • cydnabod yr hyn mae athletwyr Paralympaidd yn ei gyflawni;
  • dileu rhai o'r mythau am chwaraeon ac anabledd;
  • rhoi esiamplau o ragoriaeth mewn chwaraeon, yn chwaraeon unigol a thîm.